Dr David Nott OBE
Gwobr Rhyngwladol enillydd 2017
Ac yntau wedi’i eni yng Nghaerfyrddin, Gorllewin Cymru, enillodd David ei radd feddygol o Brifysgol Manceinion ac ym 1992 enillodd Gymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Lloegr i ddod yn Lawfeddyg Ymgynghorol.
Mae wedi bod yn Llawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Chelsea a Westminster am 23 mlynedd lle mae’n arbenigo mewn llawfeddygaeth gyffredinol. Mae Mr Nott hefyd yn cyflawni llawdriniaeth fasgwlaidd a thrawma yn Ysbyty’r Santes Fair a llawdriniaeth ganser yn Ysbyty Brenhinol Marsden. Mae David yn awdurdod ar lawdriniaeth laparosgopig ac ef oedd y llawfeddyg cyntaf i gyfuno llawdriniaeth laparosgopig a fasgwlaidd.
Am yr ugain mlynedd ddiwethaf mae David wedi bod yn cymryd absenoldeb heb dâl bob blwyddyn i weithio i’r asiantaethau cymorth Médecins Sans Frontières, Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch a Syria Relief. Mae wedi rhoi triniaeth lawfeddygol i ddioddefwyr gwrthdaro a thrychineb ym Mosnia, Afghanistan, Sierra Leone, Liberia, y Traeth Ifori, Chad, Darfur, Yemen, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, Haiti, Irac, Pacistan, Libya, Syria, Gweriniaeth Canol Affrica, Gaza a Nepal.
Yn ogystal â thrin dioddefwyr gwrthdaro a thrychineb a chodi cannoedd o filoedd o bunnoedd i achosion da, mae David yn addysgu sgiliau llawfeddygol uwch i feddygon a llawfeddygon lleol pan fydd dramor. Yn Llundain, mae’n addysgu’r cyrsiau Sgiliau Trawma Llawfeddygol Diffiniol (DSTS) a Hyfforddiant Llawfeddygol ar gyfer yr Amgylchedd Llwm (STAE) yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon.
Yn 2015 sefydlodd David y “davidnottfoundation” gyda’i wraig Elly. Y llynedd, fe dalodd y sefydliad am hyfforddi tri llawfeddyg y daethpwyd â hwy i’r DU o Libya a Syria fel ysgolheigion David Nott. Aeth y sefydliad â’i is-gwrs hyfforddi o’r enw cwrs hyfforddiant llawfeddygol ar gyfer yr amgylchedd gelyniaethus i flaen y gad a hyfforddodd 63 o lawfeddygon o Syria ar y ffin rhwng Twrci a Syria. Aeth David i Yemen hefyd a chyflwynodd y cwrs i 43 o lawfeddygon Yemeni. Ym mis Chwefror 2017, mae’r cwrs hyfforddiant llawfeddygol ar gyfer yr amgylchedd llwm yn mynd rhagddo yn Llundain ac mae’r sefydliad yn talu i 10 llawfeddyg ddod o ardaloedd lle ceir gwrthdaro dros y byd i gyd i Lundain i gael hyfforddiant. Yn y ffordd yma, bydd miloedd o gleifion yn cael budd o’r hyfforddiant y mae’r “davidnottfoundation” yn ei roi i lawfeddygon gan helpu i achub bywydau dros y byd i gyd.