Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Diwylliant enillydd 2025

Wedi'i eni yn 1934 a'i fagu yn y Rhath, Caerdydd, mae David Hurn yn un o'r ffigurau blaenllaw ym myd ffotonewyddiaduraeth ac roedd yn un o aelodau cyntaf yr asiantaeth fawreddog Magnum Photos.

Enillodd gydnabyddiaeth i ddechrau fel ffotograffydd dogfennol llawrydd yn ystod gwrthryfel Hwngari yn 1956, a thros ei yrfa hir ac amrywiol wedyn mae wedi adeiladu corff o waith hynod ddylanwadol. Yn ogystal â thynnu lluniau o sêr sinema fel Sean Connery (fel James Bond), Michael Caine, Audrey Hepburn a'r Beatles, fe gipiodd ddelweddau cofiadwy o drychineb Aberfan. Sefydlodd Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol Casnewydd yn 1973.

Mae cyhoeddiadau David Hurn fel Living in Wales ac 'An Ode to Wales' yn dangos ei gariad arbennig tuag at ei wlad, ond mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi a'i arddangos yn rhyngwladol hefyd, ac mae ei effaith ar ffotograffiaeth ddogfennol yn arwyddocaol.

Yn ogystal â chyfrannu ei athrylith ei hun i fyd ffotograffiaeth, mae David Hurn wedi cyfrannu ei gasgliad mawr o ddelweddau gan ffotograffwyr eraill i Amgueddfa Cymru fel rhodd i'r genedl. Ag yntau bellach yn byw yn Nhyndyrn, mae David Hurn yn dal ati i ddogfennu bywyd y pentref trwy lens ei gamera, ac mae ei gyfrif Instagram yn bleser i'w weld!

Dichon mai David Hurn yw ffotograffydd byw pwysicaf Cymru.