Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon

Mae Dan Biggar o Abertawe wedi’i ddewis yn Deilyngwyr yng Ngwobrau Dewi Sant yn y categori Chwaraeon am ei gyfraniad i lwyddiant diweddar carfan Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Byd yn 2015.

Cafodd Dan ei ddewis i chwarae i Gymru yn 2008 ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn un o chwaraewyr rygbi mwyaf adnabyddus Cymru.

Dechreuodd Biggar ddangos ei ddoniau i’w glwb rhanbarthol, Y Gweilch, wrth gael ei enwi’n Seren y Gêm droeon yn y gynghrair RaboDirect Pro12 yn ogystal â chicio’r trosiad i sicrhau buddugoliaeth y tȋm yn y gêm derfynol.

Daeth cyfle Biggar i chwarae yng nghrys rhif 10 Cymru ym Mhencampwriaeth lwyddiannus y Chwe Gwlad yn 2013, gan ddechrau ymhob un o’r 5 gêm a gorffen y bencampwriaeth â gôl adlan a chic-gosb yn y rownd derfynol yn erbyn Lloegr.

Ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Byd 2015, cymerodd Dan yr awenau i gicio yn dilyn anafiad Leigh Halfpenny. Ciciodd Biggar 56 o bwyntiau yn ystod y bencampwriaeth gan gynnwys 23 pwynt ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr gan dorri tair record o Gymru yn y broses ac ennill teitl Seren y Gêm.