Clwb Rygbi Rhydyfelin
Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder
Mewn tân mawr, fe wnaeth aelodau Clwb Rygbi Rhydyfelin, Lloyd Riley, Kian Harris, Kieron Phillips, Rhys Phillips, Liam Williams, James Norman, Dylan John a Luke Studley ymddwyn gyda dewrder hynod i achub llawer o bobl oedd â’u bywydau mewn perygl.
Ar 13 Rhagfyr 2023, bu ffrwydrad a thân mawr yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest ger Pontypridd. Yn anffodus cafodd un rhan o'r Ystâd ei dinistrio'n llwyr, ac yn drasig iawn fe gollodd un ddynes, Danielle Evans, ei bywyd yn y digwyddiad.
Ar y pryd, roedd chwaraewyr Clwb Rygbi Rhydyfelin yn mynychu sesiwn hyfforddi reolaidd mewn campfa ar yr ystâd ddiwydiannol - Mindset Functional Fitness.
Yn dilyn y ffrwydrad, roedd yr allanfeydd tân wedi’u blocio. Gweithiodd dau o'r chwaraewyr eu ffordd drwy'r gampfa , ochr yn ochr â’r staff, gan ddod o hyd i bawb oedd yn yr adeilad ac arwain hyd at 50 o bobl allan i'r maes parcio.
Fodd bynnag, roedd pawb wedyn yn gaeth rhwng y tân a ffens uchel, heb unrhyw ffordd i fynd heibio wrth i'r tân ddod tuag atynt. Roedd y gwasanaethau brys ar y safle, ond ni allent gyrraedd y bobl ar unwaith gan eu bod yn ymladd y tân ffyrnig.
Yr unig opsiwn oedd mynd drwy'r ffens. Aeth chwaraewyr rygbi Rhydyfelin ati ar unwaith i greu llwybr dianc i ddiogelwch. Chwalon nhw’r ffens palisâd metel 3m, gan ddioddef anafiadau yn y broses, er mwyn i pawb allu mynd i ardal fwy diogel.
Roedd y dynion ifanc hyn a staff y gampfa i gyd yn ddewr iawn, ac yn gweithio gyda'i gilydd fel tîm i sicrhau bod pawb yn gallu dianc o'r tân.
Mae'r ddau grŵp wedi derbyn gwobr gan Heddlu De Cymru.