Clwb Ieuenctid Fferm Gymunedol Abertawe
Enwebiad ar gyfer gwobr Pencampwr yr Amgylchedd
Mae Farm Clwb yn grŵp gwirfoddol o bobl ifanc rhwng 8 a 18 oed sy'n wynebu amrywiaeth o heriau iechyd meddwl, ymddygiadol ac emosiynol. Mae'r rhain yn cynnwys pryder uchel, hyder isel, a diffyg hunan-barch, yn ogystal â thrawma o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae gan lawer hefyd anghenion ychwanegol ac yn cael sefyllfaoedd cymdeithasol yn anodd. Gyda chymorth Fferm Gymunedol Abertawe, elusen llesiant mewn ardal ddifreintiedig iawn, mae'r bobl ifanc yn ffynnu.
Mae'r bobl ifanc yn gweithio'n ddiflino i gynnal tir y Fferm. Maent yn plannu planhigion brodorol i annog pryfed peillio gan ddefnyddio'r compost di-gemegion a wneir ar y safle. Drwy eu gwaith cadwraeth, casglu sbwriel ac ailgylchu mae’r criw yn helpu i ofalu am yr ardal; wrth fynd â'r anifeiliaid allan i bori ar y rhos mae’n nhw’n atal planhigion ymledol rhag cymryd drosodd ac yn agor y tir i rywogaethau brodorol o fywyd gwyllt.
Mae gofalu am yr amgylchedd yn rhan allweddol o genhadaeth y Fferm, ac mae popeth a wnânt wedi'i anelu at wella'r ardal ar gyfer bywyd gwyllt. Mae'r bobl ifanc yn cymryd arolygon bywyd gwyllt rheolaidd ac yn creu cynefinoedd fel perthi, llochesi trychfilod a blychau nythu.
Mae'r bobl ifanc anhygoel wedi ysbrydoli'r gymuned leol i gymryd perchnogaeth o'u gofod gwyrdd gyda'u gwaith caled ac erbyn hyn mae'n lle a ddefnyddir yn rheolaidd gan selogion natur a cherddwyr o bob oed.
Mae ymroddiad y bobl ifanc yn wirioneddol ysbrydoledig a thrwy hynny mae eu hyder ac iechyd meddwl wedi gwella'n sylweddol.