Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Swyddogion ymateb sydd wedi’u lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac sy’n gwasanaethu siroedd Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg yw’r Cwnstabliaid Heddlu Christopher Bluck a Rhys Edwards. Mae’r swyddogion hyn yn ymdrin â galwadau 999 yn ogystal â materion plismona o ddydd i ddydd. Hwy fel arfer yw’r cyntaf i gyrraedd y safle yn dilyn galwad frys.

Fe beryglodd y ddau swyddog eu diogelwch eu hunain i achub bywyd menyw a oedd wedi rhoi ei hun ar dân ac a oedd wedi’i harfogi â llawddryll.

A hwythau wedi cael eu galw i’r safle yn oriau mân y bore ym mis Mawrth 2016, cafodd y ddau fynediad i eiddo lle’r oeddent yn gallu gweld mwg yn dod o dan ddrws ystafell wely a oedd wedi cael ei faricedio â dodrefn.

Heb betruso, fe wthion nhw eu ffordd i mewn i’r ystafell lle daethant o hyd i fenyw a oedd yn eistedd ynghanol pentwr o ddillad a phapur a oedd ar dân, gyda’i dillad hithau ar dân hefyd. Yn fwy brawychus byth, roedd ganddi arf tân yn ei meddiant ac roedd yn bygwth niweidio’i hun.

Heb unrhyw amser i ystyried a oedd y dryll yn un go iawn ai peidio, fe wnaeth y ddau ohonynt gario’r fenyw i fan diogel ar y stryd, lle rhoddon nhw gymorth cyntaf iddi ac fe ddiffoddodd y gwasanaeth tân weddill y tân.

Cafodd y Swyddogion afael ar y dryll wedi i’r fenyw saethu ei hun yn ei cheg ddwywaith. Darganfuwyd mai dryll BB oedd y dryll, a oedd yn saethu pelenni traul metel. Wedyn aeth y swyddogion â’r fenyw i’r ysbyty lle cafodd ei thrin am ei hanafiadau a’i rhoi yng ngofal y gwasanaethau iechyd.