Casey-Jane Bishop
Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc
Mae Casey-Jane Bishop yn ymgyrchydd gwrth-fwlio yn ei harddegau o Gwm Cynon. Dechreuodd Casey-Jane gael ei bwlio yn yr ysgol yn chwech oed gan ei gadael yn dioddef o drawma a gorbryder. Cynorthwywyd Casey-Jane gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a phrosiect Teuluoedd Cadarn Barnardo's. Drwy'r cymorth a gafodd, daeth o hyd i'r dewrder i ddefnyddio ei llais a siarad yn erbyn bwlio a'r effaith y mae'n ei gael ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae'n Llysgennad Ifanc i'r elusen Bullies Out ac mae'n un o dri o bobl ifanc a etholwyd i Senedd Ieuenctid Cymru i gynrychioli Barnardo's Cymru.