Carwyn Williams
Gwobr Person Ifanc enillydd 2016
Mae Carwyn Williams o Landudno wedi ei ddewis fel Teilyngwr yng nghategori Person Ifanc Gwobrau Dewi Sant fel cydnabyddiaeth o’r ffaith ei fod wedi trawsnewid ei fywyd drwy wirfoddoli.
Cafodd Carwyn ei ddiarddel o’r ysgol ym Mlwyddyn 9 a’i drosglwyddo i uned arbenigol. Gadawodd yr uned honno ar ôl penderfynu nad oedd yn dymuno parhau â’i addysg.
Yn 16 mlwydd oed gadawodd yr ysgol heb gymwysterau ond 2 flynedd yn hwyrach mae’n wirfoddolwr brwdfrydig gyda’r Prosiect Delwedd Iach, lle mae’n hybu ffordd o fyw iach a chwaraeon i bobl ym Mwrdeistref Sir Conwy drwy redeg sesiynau addysg iechyd a rhedeg sesiynau chwaraeon arloesol i bobl ifanc megis futsal a phêl-law.
Yn ddiweddar, fe enillodd wobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn Cymru yng Ngwobrau Cenedlaethol StreetGames ac roedd e’n rhan o grŵp a dderbyniodd Wobr Canmoliaeth Uchel gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.