Carole Anne Dacey
Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y gymuned
Mae Carole Ann Dacey o Benarth yn wirfoddolwr sydd wedi rhoi blynyddoedd lawer o wasanaeth i amrywiaeth o elusennau, yn fwyaf nodedig y Samariaid a Byddin yr Iachawdwriaeth.
Yn gyn nyrs gynorthwyol, dechreuodd Carole Ann weithio yn Ysgol Gynradd Llandochau yn y 1980au ac roedd wrth ei bodd yn helpu plant ag anghenion arbennig gyda'u darllen. Dechreuodd wirfoddoli hefyd gyda'r Cartref Plant Cenedlaethol am nifer o flynyddoedd.
Dechreuodd Carole Ann wirfoddoli i'r Samariaid yn 2003 ac mae hi'n dal i wneud hynny hyd heddiw. Hyfforddodd i weithio fel gwirfoddolwr yng Ngharchar Ei Mawrhydi Caerdydd a helpodd i hyfforddi 'gwrandawyr carcharorion' sy'n cefnogi cyd-garcharorion. Yn ystod pandemig COVID-19, mae Carole wedi gweithio sifftiau ychwanegol yng nghanolfan y Samariaid er mwyn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau yn ystod y pandemig.
Mae Carole Ann hefyd wedi bod yn wirfoddolwr hirsefydlog gyda Byddin yr Iachawdwriaeth. Dechreuodd helpu gyda'r prosiect bws porffor yng nghanol dinas Caerdydd i ddarparu bwyd i'r digartref. Yn ystod y pandemig, paratôdd dros 260 o frecwastau a chiniawau bob dydd i'w dosbarthu i'r digartref sy'n aros yn hosteli Byddin yr Iachawdwriaeth.
Bedair blynedd yn ôl, ymunodd Carole Ann hefyd â gwasanaeth cymorth Caethwasiaeth Fodern Byddin yr Iachawdwriaeth fel hebryngwr a gyrrwr i helpu i gludo dioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl er mwyn cam-fanteisio arnynt yn rhywiol i dai diogel ledled y wlad.
Ar ôl mynd ar wyliau i Kenya yn 2010, dechreuodd Carole Ann hefyd godi arian ar gyfer elusen cartref plant amddifaid Utanga yn Mombasa i brynu cymhorthion addysgol ar gyfer ysgolion a chefnogi'r rhaglen Bwydo’r 500 (‘Feed the 500’).