Professor Carl Jones MBE
Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol
Biolegydd cadwraeth o Gymru sydd wedi bod yn cael ei gyflogi gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durrell ers 1985 ac yn aelod sefydlu (1984) o Sefydliad Bywyd Gwyllt Mawrisiws, yn Brif Wyddonydd yn Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durrell ac yn athro anrhydeddus mewn ecoleg a bioleg cadwraeth ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia yw’r Athro Carl G. Jones, MBE.
Mae’r Athro Jones yn fwyaf adnabyddus am ei waith i adfer cudyll coch Mawrisiws o bedwar aderyn yn unig ym 1974 i 400 yn ôl yr amcangyfrif. Ac yntau wedi bod yn gweithio yn Ynysoedd Mascarene ers 1979, mae wedi arwain pedwar prosiect adfer adar llwyddiannus lle’r oedd y boblogaeth i ddechrau’n llai na 12 aderyn unigol. Mae hefyd yn gyfrifol am achub tair rhywogaeth ymlusgiaid, ystlumyn ffrwythau a sawl planhigyn rhag mynd i’w colli. O ganlyniad mae Mawrisiws wedi osgoi difodiant mwy o rywogaethau nag unrhyw wlad arall.
Mae’r Athro Jones wedi arloesi’r ffordd o ran defnyddio ailosodiadau ecolegol neu dacsonomig i lanw rolau ecolegol anifeiliaid sydd wedi difodi ac wedi llwyddo i adfer lefelau llystyfiant endemig i ynysigau a oedd wedi’u dionoethi’n flaenorol. Am ei ymdrechion diflino a’i gyflawniadau pwysig o ran cadwraeth mae wedi ennill Gwobr Nobel am Gadwraeth eleni (Enillydd Gwobr Indianapolis).
Mae wedi cysegru ei fywyd a’i yrfa i adfer poblogaethau anifeiliaid a chynefinoedd sydd mewn perygl ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r Cadwraethwyr mwyaf medrus ar y Ddaear.