Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dinasyddiaeth enillydd 2019

Mae Bugeiliaid y Stryd Caerdydd yn fenter gan eglwysi lleol yn ardal Caerdydd. Mae gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi yn mynd o amgylch Canol Dinas Caerdydd, rhwng 10 y nos a 4 y bore nos Wener a Sadwrn i helpu'r rhai sydd mewn angen. Maent yn cydweithio â'r heddlu, Cyngor Dinas Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a busnesau lleol.

Dechreuodd Bugeiliaid y Stryd Caerdydd ym mis Tachwedd 2008 gyda thîm o 18 o fugeiliaid stryd. Ers hynny, maent wedi bod ar strydoedd Caerdydd pob penwythnos; yn gwrando, yn gofalu ac yn helpu. Mae ganddynt bellach dîm o dros 60 o fugeiliaid stryd o 25 o eglwysi ac wedi rhoi miloedd o oriau o wasanaeth gyda'r nos yng Nghaerdydd.

Mae'n rhan o fenter genedlaethol fwy sy'n cael ei rhedeg gan elusen o'r enw Ascension Trust. Cafodd y Bugeiliaid Stryd ei lansio'n genedlaethol yn Lambeth yn 2003, ac mae bellach mewn cannoedd o drefi a dinasoedd ledled y DU.