Câr y Môr
Gwobr Busnes enillydd 2023
Câr-y-Môr yw ‘fferm fôr atgynhyrchiol’ gyntaf Cymru. Busnes prosesu bwyd môr a chymdeithas budd cymunedol ydy’r busnes, sydd wedi ei leoli yn Nhyddewi, Sir Benfro. Nod y busnes yw gwella’r amgylchedd arfordirol drwy ffermio morol atgynhyrchiol a gwella lles y gymuned leol drwy greu swyddi, darparu bwyd môr ffres ac adfer yr amgylchedd.
Dros y tair blynedd ddiwethaf mae’r busnes wedi ehangu o ddau safle arbrofol bach i fferm wymon a physgod cregyn sydd yn dri hectar o faint ac yn cyflogi deuddeg aelod o staff.
Sefydlwyd CâryMôr yn swyddogol fel cymdeithas budd cymunedol ar 1 Awst 2019. Ers hynny mae’r aelodaeth wedi tyfu i fwy na 250 o aelodau, ac fel sefydliad nid-er-elw, mae’n gweithredu er lles y gymuned.
Mae Câr-y-Môr yn falch o’r twf y mae wedi ei brofi yn y tair blynedd y mae wedi bod yn masnachu. Bu’r busnes yn rhedeg fferm wymon a physgod cregyn am ddwy flynedd, ac ym mis Mehefin 2022, gosodwyd fferm fôr dri hectar lle tyfir amrywiol rywogaethau o wymon, cregyn gleision, wystrys cynhenid, a chregyn bylchog. Drwy’r deunyddiau crai sy’n cael eu ffermio ar y safleoedd hyn, mae’r cwmni yn gallu hyrwyddo dewisiadau bwyd iach i unigolion lleol. Maent hefyd yng nghamau cyntaf prosiect a fydd yn datblygu purfa wymon yn Nhyddewi. Bydd hyn yn creu symbylwyr biolegol organig a mwydion a ddefnyddir mewn 'plastigau' bioddiraddadwy. Maent yn gobeithio y bydd hyn o gymorth i gysylltu sector amaethyddol traddodiadol Cymru â sector dyframaethu newydd Cymru.
Y tu hwnt i ffermio môr, mae Câr-y-Môr yn addysgu ac yn ymgysylltu â’r gymuned leol, gan roi cyflwyniadau rheolaidd mewn ysgolion lleol ac i grwpiau ac unigolion sydd â diddordeb mewn ffermio môr.