Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Mae Cwmni Caws Cheddar Blaenafon yn cynhyrchu caws cheddar nodedig ag iddo hanes arbennig. Sefydlwyd y busnes teuluol yn 2006 ac mae wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Maent yn cynhyrchu caws cheddar nodedig iawn ac mae gan nifer ohonynt flas alcoholau lleol, fel Gwirod Black Mountain, Brains SA a seidr Taffy Apple. Mae eu caws cheddar Pwll Mawr enwog yn aeddfedu 300 troedfedd o dan y ddaear ar waelod siafft y pwll glo yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.

Yn 2018, fe lwyddodd y cwmni i sicrhau contract gydag archfarchnad Morrisons i gyflenwi 10 math o gynnyrch i saith siop yng Nghymru. Roedd contract Morrisons yn caniatáu i'r cwmni ymestyn i siop wag drws nesaf a pharhau i fod yn ganolbwynt yng nghanol tref Blaenafon.

Mae cyfnod COVID-19 wedi bod yn anodd i lawer o fusnesau ac er gwaetha’r pryder ar ddechrau’r pandemig, mae'r cwmni wedi llwyddo i arallgyfeirio a ffynnu yn ystod yr adeg bryderus hon. Gan nad oedd y busnes yn gallu gweithredu fel arfer, manteisiodd y cwmni ar y cyfle i adnewyddu ei wefan a chynyddu ei bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwnaethant hefyd gydweithio â chynhyrchwyr lleol eraill i gynnig hamperi, platiau a bocsys blasu gan gynnwys cwrw lleol, siytni, jamiau a chraceri i gyd-fynd â'u caws. Maent wedi llwyddo i gynyddu eu gwerthiant cymaint â 200%.