Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Mae Beti George yn un o fawrion y byd darlledu yng Nghymru.

Dechreuodd ei gyrfa yn y 1970au fel gohebydd llawrydd ar raglen radio foreol y BBC, Bore Da. Aeth ymlaen i gyflwyno Heddiw, rhaglen deledu nosweithiol y BBC. Pan sefydlwyd S4C ym 1982, bu'n gyflwynydd rhaglen Newyddion y BBC oedd yn cael ei darlledu ar y sianel. Roedd hi'n un o'r ychydig iawn o fenywod oedd yn cyflwyno rhaglenni newyddion yr adeg honno yng Nghymru, ac enillodd ei phlwyf gydag awdurdod mewn cyfnod pan oedd menywod yn cael eu gwthio i'r cyrion neu eu penodi i swyddi eilradd.

Eleni dathlodd ei rhaglen radio Beti a'i Phobl ei phenblwydd yn 40 oed. Darlledwyd hi gyntaf ar BBC Radio Cymru ym 1984.

Mae Beti yn feistr ar ei chrefft. Gyda steil cyfweld sy’n ymddangos mor ddiymdrech, mae gwir drylwyredd i'w gwaith, yn deillio o'i diddordeb dwfn a diffuant mewn pobl. Mae wedi holi enwogion a sêr ond hefyd cannoedd o unigolion sydd â stori llai hysbys, ond difyr, i'w hadrodd. Dros y blynyddoedd mae wedi creu archif sylweddol i'r genedl ei drysori.

Daw deallusrwydd a chydymdeimlad Beti i’r amlwg yn ei holl waith cyflwyno, boed ar raglenni cerddoriaeth glasurol neu Cysgu o Gwmpas, ei chyfres deithio ddiweddar gyda Huw Stephens. Mae Beti George wedi gosod esiampl i bob menyw ei ddilyn, am ei hirhoedledd, ei chyfraniad at ddarlledu, a heb anghofio ei gwaith pwysig i godi ymwybyddiaeth o ddementia a'i effaith ar ofalwyr a dioddefwyr. Mae hi wedi arwain y ffordd i ddarlledwyr Cymru.