Bethany Roberts
Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc
Myfyriwr 17 oed o Aberdaugleddau yw Bethany Roberts ac mae'n eiriolwr brwd dros bobl ifanc yn Sir Benfro a Chymru.
Ymunodd Bethany â Chlwb Ieuenctid Aberdaugleddau pan oedd yn 11 oed ac ers hynny mae wedi cynrychioli pobl ifanc ar Gyngor Tref Aberdaugleddau ac wedi bod yn Gadeirydd ar Gyngor Ieuenctid Sir Benfro. Fel rhan o'i gwaith ar ran y Cyngor Ieuenctid mae wedi bod yn llais dros bobl ifanc a hefyd wedi helpu i drefnu llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn. Mae llawer o'r bobl hŷn yma'n byw mewn cymunedau ynysig. Mae Bethany hefyd wedi'i hethol yn gynrychiolydd Sir Benfro ar Senedd Ieuenctid y DU. Mae Senedd Ieuenctid y DU yn creu cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed ddefnyddio eu llais etholedig i sbarduno newidiadau cymdeithasol drwy gyflwyno sylwadau adeiladol ac ymgyrchu.
Ym mis Tachwedd 2017 mynychodd Bethany gyfarfod o Senedd Ieuenctid y DU yn San Steffan lle siaradodd am roi'r bleidlais i bobl ifanc 16 oed. Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd pwyllgorau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed ac mae'n cynorthwyo â'r gwaith o gynnal cyfarfod y Senedd Ieuenctid.
Mae Bethany wedi derbyn hyfforddiant i fod yn Arolygydd Ifanc sy'n ei galluogi i arolygu ysgolion, sefydliadau ac asiantaethau a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â Safon Cyfranogiad Cenedlaethol Cymru. Enillodd Bethany yn ddiweddar Wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn - Cyflawnwyr Ifanc yng Ngwobrau Sir Benfro am ei gwaith caled a'i hymroddiad i bobl ifanc a hawliau plant.