Neidio i'r prif gynnwy

Enwebwyd ar gyfer gwobr Gwirfoddoli

Fel mam mewn profedigaeth, mae Beth wedi bod yn gwirfoddoli ac yn codi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 er cof am ei mab, Peter, a fu farw o'r clefyd yn 2015 yn 13 oed. Yn ystod y 9 mlynedd diwethaf, mae'r teulu Baldwin wedi codi dros £100,000 ac wedi achub bywydau nifer o blant. Mae Beth wedi bod yn allweddol wrth newid polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer diagnosis diabetes math 1.

Y flwyddyn ddiwethaf mae Beth wedi sicrhau £20,000 o arian ychwanegol ac wedi lansio ymgyrch i 'Ailysgrifennu Stori Peter' a sicrhau ei etifeddiaeth. Hi sy'n gyfrifol am anfon pecynnau adnoddau math 1 i bob meddygfa ar draws Cymru.

Mae'r prosiect dan arweiniad Beth a'i gefnogi gan Diabetes UK Cymru yn dwyn ynghyd grwpiau cymunedol lleol, hysbysebu lleol a defnyddio partneriaid allweddol ledled Cymru i gael yr effaith fwyaf.

Fel hyfforddwr, bu Beth's yn hyfforddi ac yn dysgu miloedd o fenywod i wella eu bywydau a'u dilyniant gyrfa. Yn llysgennad, yn ymddiriedolwr ac yn ymgyrchydd dros nifer o elusennau lleol (Diabetes UK Cymru, 2Wish, Believe Organ Donation, Bullies Out, Chwarae Teg) mae hi'n treulio ei dyddiau yn rhoi rhywbeth yn ôl ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai o'i chwmpas. Yn ymgyrchydd, gwirfoddolwr, codi arian, eiriolwr a chynghreiriad, mae Beth ar genhadaeth i newid y cwrs i eraill a rhoi ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth nesaf a byd gwell.

Mae CV Beth yn cynnwys, deisebu, rhoi tystiolaeth, siarad ar lwyfannau cenedlaethol, podlediadau, allfeydd newyddion. Roedd modd osgoi marwolaeth Peter, cenhadaeth Beth yw sicrhau nad oes unrhyw blentyn arall yn marw yn ddiangen o ddiagnosis o fath 1.

Mae Beth yn gatalydd ar gyfer newid.