Bad Wolf Ltd
Gwobr Busnes enillydd 2025
Cwmni cynhyrchu dramâu teledu yw Bad Wolf, yng Nghaerdydd. Mae wedi ymrwymo i wneud ei holl gynyrchiadau yng Nghymru. Ei raglenni teledu diweddaraf yw Dope Girls a Doctor Who.
Dyma’r unig gwmni cynhyrchu yn y DU sydd â’i gyfleuster hyfforddi ac addysg ei hunan.
Mae Bad Wolf yn frwd dros yr arferion gorau, lles gweithwyr ac ethos gwaith cadarn. Ac mae wedi sefydlu dau gwmni arall i dyfu'r sylfaen gynhyrchu a'r criw yng Nghymru, sef:
Wolf Studios Wales(WSW) - stiwdio gynhyrchu deledu bwrpasol yng Nghaerdydd sy'n gartref i gynyrchiadau Bad Wolf, ar gael i'w llogi ac mae hefyd yn gartref i Bencadlys Bad Wolf. Mae WSW yn un o saith stiwdio yn unig yn y DU i sicrhau Safon Stiwdio 'Da Iawn' yn 2024 am ei chynaliadwyedd.
Screen Alliance Wales (SAW) - asiantaeth sgrin philanthropig gyda ffocws ar addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau. Creodd Bad Wolf SAW i sicrhau hirhoedledd y diwydiant cynhyrchu teledu yng Nghymru.
Rhwng 2015 a 2020, gwariodd Bad Wolf gyfanswm o £259m ar gynhyrchu saith cyfres deledu – A Discovery of Witches 1, 2 a 3, His Dark Materials 1 a 2, Industry ac I Hate Suzie.
Gwariodd y cwmni £121.8m yng Nghymru fel taliadau am lafur ac i gyflenwyr a deiliaid eiddo deallusol yng Nghymru. Cynhyrchwyd £114m mewn gwerth ychwanegol gros (GVA) ar gyfer economi Cymru, a chrewyd cyfanswm o 2,243 o swyddi Cyfwerth ag Amser Llawn ar gyfer gweithwyr y diwydiannau creadigol.
Mae 2025 yn nodi 10 mlynedd ers sefydlu'r cwmni.