Athro Syr Deian Hopkin
Gwobr arbennig y Prif Weinidog enillydd 2019
Mae Syr Deian wedi bod yn Gynghorydd Arbenigol i’r Prif Weinidog ar goffàu y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Ef yw Cadeirydd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918 ac mae’n aelod o Fwrdd UK First World War Centenary. Mae wedi arwain y ffordd ar sut wnaeth Cymru goffàu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf wedi mynychu digwyddiadau ar ran y Prif Weinidog.
Sicrhaodd Syr Deian bod y digwyddiadau coffau yn taro’r nodyn iawn gan roi sylw teilwng i’r Canmlwyddiant, rhoi gwell dealltwriaeth o beth achosodd y rhyfel, yr effeithiau ar bob teulu a chymuned yn ogystal â dangos y gwersi gallwn ni eu dysgu.
Cafodd ei eni a’i addysgu yng Nghymru, yn academydd a’n hanesydd sydd wedi treulio dros 40 mlynedd mewn addysg uwch, gan gynnwys ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Pennaeth Hanes. O 2001 tan ei ymddeoliad yn 2009, roedd yn Is Ganghellor a’n Brif Weithredwr yn Prifysgol South Bank Llundain.
Mae’n hanesydd uchel ei barch ac yn gyn Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru tan 2016.