Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Sefydlwyd A&R Services, sydd wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn 2010 gan dîm gŵr a gwraig, Ashley a Rayner Davies. Maent yn darparu gwasanaethau glanhau masnachol proffesiynol, cyfleusterau ar gyfer ystafelloedd ymolchi a diogelwch i fwy na 250 o gleientiaid ledled Cymru a de-orllewin Lloegr sy'n cynnwys Dŵr Cymru, Monmouthshire Building Society a Hugh James.

Effeithiwyd ar y busnes, fel cynifer o fusnesau eraill, gan y pandemig sydd wedi gweld A&R yn buddsoddi mewn technolegau a gwasanaethau newydd. Dyma un o'r busnesau cyntaf yng Nghymru i gynnig gwasanaethau bio-anwedd sy'n darparu camau bioddiogelwch ychwanegol yn erbyn COVID, Norofeirws a heintiau eraill.

Mae'r busnes hefyd yn canolbwyntio ar arloesi ac ar hyn o bryd maent yn datblygu eu rhaglen eu hunain sy’n arwain y diwydiant. Ers mis Mawrth 2020 mae hyn wedi golygu bod A&R wedi mwy na dyblu o ran maint, gan fynd â chyfanswm nifer y gweithwyr i 350 o bobl sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y busnes.

Wrth symud ymlaen i 2022, gwelwyd cam cyffrous i'r busnes ar ôl pryniant llwyddiannus gan y rheolwyr, wedi’i ariannu gan Fanc Datblygu Cymru. Gwnaeth hyn ganiatáu i’r busnes hwn o Gymru ddechrau ar eu cynllun twf pum mlynedd uchelgeisiol.

Mae elusennau a’r gymuned wrth wraidd y busnes. Gwnaethant lansio eu hapêl Bwydo Teuluoedd ar gyfer y Nadolig yn 2020, lle gwnaethant addo bwydo unigolion neu deuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig. Gyda chymorth a haelioni busnesau lleol eraill, gwnaethant helpu 120 o deuluoedd lleol mewn angen.