Andrew Thomas
Enwebwyd ar gyfer gwobr Gwirfoddoli
Sefydlodd Andrew Thomas elusen Prostate Cymru gydag un o’i gleifion, y diweddar Ray Murray, ugain mlynedd yn ôl tra'n gweithio fel Wrolegydd Ymgynghorol yn yr NHS. Mae'r elusen wedi tyfu i gynnig cefnogaeth ac arbenigedd cenedlaethol, gan ateb galw sylweddol a sicrhau bod dynion Cymru’n cael mynediad at y triniaethau gorau sydd ar gael am glefydau'r prostad.
Mae wedi arwain sawl ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad ymhlith dynion Cymru, gan gynnwys; 'What’s your PSA?', ‘The best defence is to know the facts’, 'Save the Males in Wales' ac ar hyn o bryd 'We can beat the odds' – gan dynnu sylw at y risg uwch o ganser y prostad ymhlith dynion du a'r rhai sydd â hanes teuluol.
Er mwyn sicrhau bod y neges ymwybyddiaeth yn cyrraedd pob rhan o Gymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig a difreintiedig, mae Andrew wedi creu cerbd a adawenir fel y ‘Man Van’ – yr ung un o’i fath ym Mhrydain.
Mae Andrew yn godwr arian gweithredol ac mae wedi cefnogi'r elusen drwy arwain nifer o heriau gan gynnwys; Dringo pum llosgfynydd yn Ecuador (2013) a cherdded Llwybr yr Inca a Machu Picchu (2023). Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o heriau beicio: Penfro i Baris, Nice i Rufain a Barcelona i Monaco. Yn 2025, bydd yn arwain her golff 24 awr ac yn cerdded drwy Anialwch Namib i godi arian ar gyfer prostate Cymru.
Mae ei arweinyddiaeth a'i ddyfalbarhad wedi sefydlu Prostate Cymru fel mudiad uchel ei barch ac effaith.
Mae ymdrechion diflino ac arbennig Andrew wedi helpu i achub bywydau miloedd o ddynion.