Andrew Niinemae
Gwobr Dewrder enillydd 2019
Mae Andrew Niinemae yn 34 mlwydd oed, yn dad i dri, ac o Gaerdydd. Ym mis Gorffennaf 2018, peryglodd y peiriannydd telegyfathrebu ei fywyd ei hun yn ceisio atal car rhag gyrri i griw o oddeutu 20 o bobl y tu allan i dafarn ar Stryd Fawr yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Cafodd niwed difrifol i'w goes, ond llwyddodd i atal niwed difrifol i bobl eraill yn y digwyddiad.
Dechreuodd y digwyddiad pan lwyddodd i atal dau ddieithryn rhag ymladd. Yn fuan wedi hynny, daeth car i nôl un o'r dynion ac yna yrru tuag at y bobl ar y pafin. Malodd Andrew ffenestr y car i geisio cael y gyrrwr o'r car, ond methodd wneud hynny, yna ceisiodd dynnu'r brêc i fyny i atal y gyrrwr rhag gyrru'n fwriadol at grŵp o bobl. Mewn ymdrech i atal Andrew, gyrrodd y gyrrwr y car yn ôl gan ddal Andrew rhwng y car a thacsi oedd wedi parcio. Wedi'r gwrthdrawiad â'r tacsi, gadawodd y car yn gyflym, gan adael llanast ar ei ôl.
Yn dilyn y digwyddiad, roedd Andrew angen llawdriniaeth frys gan iddo gael anaf dwfn i'w goes chwith, yn ogystal ag anaf i'r ligament a'r cyhyr yn ei friechiau a'i goesau.
Roedd ymateb Andrew yn reddfol ac yn ddewr gan roi bywydau pobl eraill cyn ei fywyd ei hun. Dywed llygad-dystion y gallai nifer o bobl fod wedi cael niwed ac o bosibl eu lladd pe na fyddai Andrew wedi ymyrryd.