Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Menter

Mae Andrew Evans, wedi cyrraedd y rhestr fer am ei waith fel perchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr Gwesty'r St Brides Spa yn Saundersfoot, Sir Benfro.

Prynwyd y gwesty, a leolir yn uchel ar y pentir uwchben pentref Saundersfoot, yn 2000 gyda’r nod o greu gwesty sba moethus De-orllewin Cymru. Mae’r gwesty wedi cael ei drawsnewid yn encil moethus gyda décor ffasiynol a gwaith celf gyfoes drwy’r adeilad. Ers ei drawsnewid, mae’r gwesty wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwesty AA y flwyddyn 2011-12 a’r Lle Gorau i Aros 2013 yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru. Mae bellach yn cyflogi 90 o staff yn y gwesty a’r fflatiau a ddatblygwyd yn ddiweddar ar y safle, Bwyty’r Mermaid a bwyty pysgod a sglodion y Marina i gyd yn Saundersfoot. Mae’r gwesty yn gwario mwy na £2 filiwn y flwyddyn yn cefnogi cyflenwyr a thrigolion lleol ac yn hyrwyddo defnydd cynnyrch lleol. Mae Andrew yn ymwneud yn helaeth â phob agwedd ar dwristiaeth yn Saundersfoot, Sir Benfro a Chymru ac wedi ymrwymo i godi proffil y rhanbarth ac yn hyrwyddwr ansawdd brwdfrydig. Efe yw Cadeirydd Siambr Dwristiaeth Saundersfoot, yn ymwneud yn weithredol â’r Comisiwn Harbwr, yn aelod o Ymddiriedolaeth Datblygu Saundersfoot, un o Lywodraethwyr Coleg Sir Benfro ac yn aelod o Fwrdd Rhanbarth Dinas a Bae Abertawe.