Cwnstabl Alun Morgan
Ar 6 Mehefin 2012, derbyniodd Heddlu Dyfed Powys adroddiad am fachgen 14 oed oedd mewn perygl o foddi yn Chwarel Cilrychen, Rhydaman. Roedd yr heddlu’n awyddus i helpu’r bachgen a oedd mewn trafferthion a’i ffrindiau a oedd yn amlwg yn llawn gofid.
Torrodd y Cwnstabl Morgan dwll yn y ffens gan ddefnyddio’i erfyn ‘Leatherman’ ei hun, er mwyn cyrraedd atynt. Wedi cyrraedd yr ochr arall, chwiliodd yn gyflym am aelod staff cwmni peirianneg cyfagos a gofyn iddynt dorri’r cadwyni ar y gatiau er mwyn caniatáu mynediad i’r cerbydau argyfwng. Yna dechreuodd y Cwnstabl Morgan redeg ar hyd ymyl y chwarel - 250 metr o bellter – er mwyn dod o hyd i dystion.
Wedi asesu’r wybodaeth a gafwyd gan y tystion, aeth at ymyl y dŵr. Clymodd y Cwnstabl Morgan ei hun wrth linell achub ac aeth i mewn i’r dŵr. Plymiodd 15 troedfedd, gan beryglu ei fywyd ei hun yn yr oerfel eithriadol.
Daeth o hyd i’r llanc, ac fe ddefnyddiodd ei holl nerth a’i sgiliau er mwyn dod ag ef i’r wyneb. Llwyddodd i ddod â’r llanc at ymyl y dŵr i gael cymorth gan ei gydweithwyr. Ar y pryd, roedd y bachgen ifanc yn dal i fod yn fyw, ond yn amlwg mewn cyflwr difrifol. Aed ag ef i’r ysbyty, lle bu farw yn anffodus.