Alun Edwards, Joshua Brown, Oliver Brown, William Brown, Arwel Jones a Drew Nickless
Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder
Brynhawn dydd Sul 26 Gorffennaf 2020, gwnaeth aelodau o’r Sefydliad yn Aberdyfi nad oeddent ar ddyletswydd helpu i achub bywydau saith person yn ystod dau ddigwyddiad gwahanol yn ymwneud â llanw terfol yn Aberdyfi.
Nid oedd Arwel Jones ar ddyletswydd pan aeth ar frys i helpu un dyn a dau fachgen yn eu harddegau ar ôl i’w wraig eu gweld mewn trafferthion yn y dŵr. Gafaelodd mewn cylch achub ar y traeth a nofiodd allan er mwyn helpu i’w cludo yn ôl i’r lan yn ddiogel. Roedd ei ffrind a chyd-wirfoddolwr Drew Nickless yn bordhwylio ar y pryd. Defnyddiodd ei fwrdd syrffio er mwyn helpu i gludo rhai aelodau o’r grŵp yn ôl i’r lan a dadebru un cyn iddynt gael eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.
Eiliadau’n ddiweddarach, ymunodd Arwel a Drew â gwirfoddolwr arall o’r enw Alun Edwards er mwyn helpu menyw a thair merch yn eu harddegau. Roeddent hefyd mewn trafferthion oherwydd y llanw terfol. Cawsant gymorth gan dri brawd o’r enw Olly, Josh a Will Brown.
Heb eu hymateb cyflym, mae’n bosib y gallai saith person fod wedi colli eu bywydau y diwrnod hwnnw.