Alexander Anderson
Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc
Cyn cael diagnosis o Syndrom Asperger pan oedd yn naw mlwydd oed, nid oedd Alex yn cael y cymorth yr oedd ei angen arno yn yr ysgol. Symudodd i Ysgol Uwchradd Dyffryn yng Nghasnewydd pan oedd yn 11 mlwydd oed, lle mae canolfan sy'n arbenigo yn yr Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, a dechreuodd ffynnu. Pan oedd yn yr ysgol roedd yn helpu disgyblion i ymgartrefu, a daeth yn llysgennad ar gyfer y ganolfan; enillodd rai o'r graddau TGAU uchaf yn ei flwyddyn.
Mae Alex wastad wedi teimlo empathi wrth bobl eraill, a dechreuodd godi arian pan oedd yn ifanc, gan roi arian o'i fusnes bach yn gwneud basgedi crog i amrediad o elusennau yng Nghymru, a nes ymlaen helpodd i godi miloedd o bunnoedd dros elusennau eraill drwy wneud rasys hwyl ac abseilio o Bont Cludiant Casnewydd. Mae'n gwirfoddoli i helpu pobl hŷn yng Nghaerllion, gan ymweld â nhw, bod yn ffrind iddyn nhw a'u difyrru drwy chwarae'r piano.
Mae wedi ennill Gwobr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent am wirfoddol am dros 1,000 o oriau.
Fel cadlanc awyr yr RAF, mae wedi cwblhau Gwobrau Efydd, Arian ac Aur Dug Caeredin, Her Diemwnt Dug Caeredin 2016; mae wedi ennill BTEC mewn Gwaith Tîm a Cherddoriaeth, a Lefel 3 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Mae Alex hefyd wedi helpu eraill i ennill cymwysterau, ac mae'n sicrhau bod lleisiau'r cadlanciau iau yn cael eu clywed hefyd. Enillodd Wobr Dug Westminster yn 2018 am y Cadlanc Gorau gan y Sefydliad Cymwysterau Galwedigaethol i Gadlanciau, ac mae bellach yn un o'u llysgenhadon.
Cafodd e Wobr Diana am Ysgogi Newid yn 2017, ac ef yw llysgennad y sefydliad yng Nghymru. Mae'n siarad i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, ac mae'n eirioli dros eraill sydd â'r un anhwylder.