Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Ym mis Ebrill 2021, fe wnaeth y cyn filwr Aaron Gray o Brestatyn achub saith o bobl rhag tân mewn tŷ.

Ar ôl cael ei ddeffro'n gynnar un bore gan ei fab, a oedd eisiau gwydraid o laeth, sylwodd ar olau oren drwy'r ffenestr. Gan feddwl bod ei gar ar dân, edrychodd y tu allan a sylwi ar dân yng ngardd y ty cyfagos. Ffoniodd y gwasanaeth tân ac yna rhuthrodd allan i rybuddio trigolion y cartref.

Roedd dwy fenyw a phump o blant yn cysgu y tu mewn i'r byngalo ac fe'u deffrowyd gan Aaron yn ceisio eu deffro. Wedi llwyddo i’w deffro, fe'u helpodd i adael y byngalo'n ddiogel.

Lai nag awr yn ddiweddarach, nid oedd llawer ar ôl o do'r eiddo.

Derbyniodd dystysgrif arbennig gan Gyngor Tref Prestatyn i gydnabod ei weithredoedd.