21 Plus
Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth
Elusen yw 21 Plus sy’n rhoi cymorth i deuluoedd sydd â phlentyn â Syndrom Down. Caiff yr elusen ei rhedeg gan dair mam y mae gan bob un ohonynt blentyn â Syndrom Down. Nod y grŵp yw annog plant a phobl ifanc â Syndrom Down i gyflawni eu potensial a chynyddu mynediad at gyfleoedd yn ogystal â chynnig amrywiaeth eang o gymorth ac addysg i deuluoedd.
Mae’r elusen wedi mynd o nerth i nerth dros y 10 mlynedd ddiwethaf, gan gynnig gweithgareddau sydd wir wedi gwneud gwahaniaeth i bobl. Ceir grŵp iaith a lleferydd wythnosol ar gyfer plant o oedran cyn-ysgol, o’r enw “Talk Time”, sydd wedi’i fwriadu i wella sgiliau cyfathrebu’r plant trwy dargedu eu hanghenion penodol o ran iaith a lleferydd ac addysgu’r plant a’u teuluoedd i ddefnyddio Makaton. Mae’r hyfforddiant yn hanfodol i roi cymorth iddynt gyda’u sgiliau cyfathrebu.
Ceir gwersyll iaith a lleferydd yn yr haf i blant hŷn, a’i brif ffocws yw cynnig mewnbwn iaith a lleferydd arbenigol, dwys i blant o oedran ysgol. Mae’r elusen hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi pwrpasol mewn Numicon a gweithdai Anhwylder Prosesu Synhwyraidd.
Ar ben hynny, cynhelir cynhadledd addysg flynyddol ar gynnwys plant â Syndrom Down yn effeithiol mewn ysgolion. Mae’r cynadleddau hyn yn addas ar gyfer yr holl staff sy’n addysgu ac yn cefnogi disgyblion â Syndrom Down.
Yn fwy diweddar mae’r elusen wedi datblygu Gwasanaeth Cymorth i Ysgolion sy’n eu galluogi i helpu ysgolion yn uniongyrchol i gynnwys y plant hyn yn llwyddiannus ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.