Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Gwobrau Dewi Sant

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Enwebwyr

Mae Gwobrau Dewi Sant yn dathlu llwyddiannau pobl Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldebau cyfreithiol gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae'r ddogfen hon yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru (fel rheolwyr data) yn prosesu'r data personol yr ydych yn eu cyflwyno trwy gydol proses y Gwobrau. Bydd unrhyw ddata personol yn cael eu prosesu er budd y cyhoedd, gan arfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom ni.

Byddwn bob amser yn sicrhau bod unrhyw ddata personol a dderbyniwn mewn perthynas â'r Gwobrau'n cael eu storio'n ddiogel ac yn cael eu gweld yn unig gan y bobl hynny sy'n ymwneud â phrosesu'r enwebiad Gwobrau Dewi Sant, e.e. swyddogion Llywodraeth Cymru a chontractwyr penodedig.

Bydd y data personol yn cael eu cadw am 12 mis ar ôl dyfarnu’r Gwobrau a byddant yn cael eu dileu ar ôl hynny.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at y data Personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch chi
  • i ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i'ch data gael eu dileu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Customer contact

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

I wybod rhagor am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnyddio, neu os hoffech ymarfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Enwebeion

Mae Gwobrau Dewi Sant yn dathlu llwyddiannau pobl Cymru. Mae 9 Gwobr Dewi Sant, pob un ohonynt wedi'u henwebu gan y cyhoedd i gydnabod ymrwymiad, ymroddiad a gwaith caled pobl Cymru.

Fel rhan o'r broses enwebu, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn manylion eich enw, teitl swydd a’ch e-bost a chyfeiriad gwaith a chartref. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldebau cyfreithiol o ddifrif mewn perthynas â gwybodaeth bersonol ac mae'r ddogfen hon yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru (fel rheolwyr data) yn prosesu eich data personol drwy gydol proses y Gwobrau. Bydd unrhyw ddata personol yn cael eu prosesu er budd y cyhoedd gan arfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom.

Byddwn bob amser yn sicrhau bod unrhyw ddata personol a dderbyniwn mewn perthynas â'r Gwobrau yn cael eu storio'n ddiogel ac yn cael eu gweld yn unig gan y bobl hynny sy'n ymwneud â phrosesu'r enwebiad Gwobrau Dewi Sant, e.e. swyddogion Llywodraeth Cymru a chontractwyr penodedig.

Os ydych chi ar restr fer y Gwobrau, fe all eich data personol (ynghyd ag enw eich sefydliad) gael eu prosesu ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus a chyfleoedd i'r wasg (cyn ac ar ôl digwyddiad). Bydd y rhain yn cynnwys ffotograffiaeth, cyfweliadau gyda’r cyfryngau, defnyddio eich astudiaeth achos / stori mewn deunyddiau cysylltiadau cyhoeddus, fideo, y cyfryngau cymdeithasol, y teledu a'r wasg.

Bydd eich data personol yn cael eu cadw am 12 mis ar ôl dyfarnu’r Gwobrau a byddant yn cael eu dileu wedi hynny.

Os hoffech dynnu'n ôl o'r broses ar unrhyw adeg, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â gwobraudewisant@llyw.cymru. Yna byddwn yn dileu'r holl ddata personol amdanoch chi yr ydym yn eu prosesu at ddibenion y Gwobrau.

Yn ogystal â hyn, o dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • i gael mynediad at y data Personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch chi
  • i ofyn i ni gywiro anghywirdebau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i'ch data gael eu dileu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Customer contact

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113

I wybod rhagor am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal a'i defnyddio, neu os hoffech ymarfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.