Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae dysgu digidol wedi cael effaith fawr yn Ysgol O.M. Edwards ar ol cynnwys roboteg, codio a gwneud ffilmiau yn y cwricwlwm i ennyn diddordeb y disgyblion.

Mae tim yr ysgol o Ddisgyblion sy’n Arweinyddion Digidol wrth eu bodd yn helpu eraill i ddefnyddio technoleg i wella eu dysgu. Mae’r adnoddau a’r pecynnau cymorth a gyflwynwyd gan yr ysgol yn annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain ac i ddatblygu sgiliau newydd.

Mae Ysgol O.M. Edwards wedi creu diwylliant o frwdfrydedd gwirioneddol i ddysgu digidol ac maent yn siŵr o fynd o nerth i nerth gyda phrosiectau cydweithredol newydd a fydd yn galluogi disgyblion i arwain eu haddysg ddigidol eu hunain.