Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mewn ardal o amddifadedd uchel, mae Priordy Monkton wedi creu amgylchedd sy’n un gwirioneddol gynhwysol. Mae’r ysgol wedi gweithio a’r gymuned i godi ei disgwyliadau a’i dyheadau ac i helpu rhieni i ddatblygu eu sgiliau. Mae cael cymorth cartref wedi cael effaith fawr ar agweddau’r disgyblion tuag at addysg ac mae wedi arwain at amgylchedd dysgu bywiog.

Mae Priordy Monkton yn llawer mwy nag ysgol; mae wedi datblygu i fod yn ganolfan i’r gymuned gyfan. Os oes rhwystr, bydd Monkton yn ei oresgyn trwy obaith ac uchelgais. Nid ydynt yn credu bod addysg a lles yn cychwyn pan fydd y gatiau’n agor, mae’n ymestyn y tu hwnt i hynny, i’r gymuned.