Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Ers i Jordan ymuno a’r Adran Gymraeg mae wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy at yr ysgol, gan ennill cefnogaeth, parch ac edmygedd pawb. Mae wedi bod yn chwa o awyr iach ac mae ganddo agwedd bositif tuag at ei waith ac mae’n paratoi gwersi sy’n ysgogi’r disgyblion gan ddefnyddio strategaethau dysgu ac adnoddau arloesol.

Mae’n neilltuo amser i helpu staff sydd eu hunain yn ddysgwyr ac mae’n barod i sicrhau profiadau ychwanegol i bawb.

Mae Jordan yn unigolyn egniol a brwdfrydig sydd wedi llwyddo i sicrhau parch a chanmoliaeth athrawon, plant a rhieni mewn amser byr. Mae’n berson gonest ac mae ei ymrwymiad yn ddiddiwedd.