Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Jackie yn rhan allweddol o Ganolfan Gynhwysiant Ysgol y Frenhines Elisabeth. Mae’n ymdrechu i roi sylw i anghenion ei dysgwyr ac mae wedi datblygu perthynas gref a phob un ohonynt.

Mae Jackie yn un da am wrando ac mae ganddi ymagwedd synhwyrol sydd fel pe bai’n tawelu’r disgyblion a’r staff. Mae’n amlwg ei bod yn mwynhau ei gwaith ac mae’r disgyblion, y rhieni a’r staff eraill sy’n dod i gysylltiad a hi’n ei pharchu. Mae Jackie yn aelod gwerthfawr o dim y Ganolfan Gynhwysiant, ac mae ganddi ddisgwyliadau a dyheadau uchel.

Mae’n cael ei chanmol gan rieni am ddeall mor dda anghenion y disgyblion ac am wneud iddynt deimlo’n gyfforddus a hyderus.