Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Victoria Rowe: Ysgol Penrhyn Dewi, Tyddewi

Mae Victoria Rowe yn addysgwr rhagorol sy’n angerddol dros ddatblygiad ei dysgwyr.

Mae hi wastad yn darparu profiadau rhagorol i’w dysgwyr yn Ysgol Penrhyn Dewi sy’n cyfoethogi ac yn ysbrydoli eu dysgu a’u datblygiad o fewn ieithoedd.

Mae ei hangerdd dros ddysgu a dylanwadu o fewn addysg yn ymestyn y tu hwnt i’w dosbarth, ac wedi caniatáu i Victoria chwarae rhan weithredol ar draws yr ysgol wrth ddatblygu safonau ar gyfer llythrennedd hefyd.

Mae ei hangerdd dros ei phwnc yn heintus ac effeithiol.