Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Tîm Ysbrydoli i Gyflawni: Coleg Merthyr Tudful

Mae Tîm Ysbrydoli i Gyflawni (I2A) Coleg Merthyr Tudful yn ymroddedig i sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial.

Trwy gyfrwng cydweithio cryf rhwng y tîm a chyda rhanddeiliaid, rhieni a dysgwyr, maent yn sicrhau llwyddiant y rhai a allai, fel arall, ymddieithrio oddi wrth ddysgu yn gyfan gwbl. Mae'r dysgwyr yn disgrifio'r tîm fel un sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl bob amser ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'w bywydau. Mae'r tîm yn eu helpu i deimlo'n ddiogel.

Maent yn chwarae rhan allweddol yng ngweledigaeth y Coleg i lwyddo i “Drawsnewid Bywydau Trwy Gydweithio”.