Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Sadie Thackaberry: Coleg Cambria, Yr Wyddgrug

Mae Sadie yn cydnabod y potensial ym mhob dysgwr, a dyna pam mae myfyrwyr yn dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel yn ei phresenoldeb.

Mae hi'n cymryd o’i hamser i ddod i adnabod pob dysgwr yn unigol ac yn mynd y tu hwnt i’r galw ar gyfer ei dosbarth. Mae hi'n ysbrydoliaeth iddyn nhw tra'n eu herio i geisio llwyddo mewn bywyd.

Mae ei chydweithwyr yn ei disgrifio fel llysgennad perffaith i Goleg Cambria, ac mae’n amhosib gorbwysleisio ei hymroddiad heintus i’r rôl, sy’n amlwg ar draws ei hadran.