Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Rhian Evans: Coleg Gŵyr, Abertawe

Mae Rhian Evans yn “troi ei hun y tu mewn allan” i sicrhau bod ei myfyrwyr yn derbyn y cyfleoedd gorau oll i ffynnu.

Gyda Rhian, mae pob myfyriwr yn teimlo'n arbennig a’u bod yn cael eu parchu. Mae myfyrwyr yn disgrifio Rhian fel “angel”, gan wneud i'r amhosib ymddangos yn bosibl, waeth beth fo'r heriau personol mae ei myfyrwyr yn eu hwynebu.

Yn hyrwyddwr dwyieithrwydd, mae Rhian yn cefnogi ei chydweithwyr a’r myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr i fagu eu hyder yn y Gymraeg.

Dywed llawer o fyfyrwyr Rhian mai hi roddodd y gwydnwch iddynt aros yn y coleg. Nawr, maen nhw am ei phlesio yn eu gwersi ac allan ar gyfleoedd profiad gwaith.