Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Katie Davies: Coleg Penybont, Penybont

Mae Katie yn cyfuno ei rolau fel ffermwr ac addysgwr. Mae ei hangerdd dros addysgu, ynghyd â'i gwybodaeth diderfyn am amaethyddiaeth, yn gwneud Katie yn unigryw, heb os.

Mae ei chydweithwyr yn cydnabod ei bod yn addysgwr sy’n gallu dwyn ynghyd sgiliau arbenigwr addysgegol ac ymarferydd arbenigol yn rhwydd.

Ar ôl cyflawni cymaint yn y diwydiant, mae Katie yn ysbrydoliaeth i’w dysgwyr, yn swyno pob gallu ac yn ennyn eu parch uchaf. Mae'n ymgysylltu'n frwd â dysgwyr o bob oed, gan eu croesawu'n rheolaidd i fferm ei theulu.

Mae Katie yn helpu i dywys ei myfyrwyr, gan gynnig gofal a chyngor bob cam o’r ffordd. Mae hi'n ymgorffori ysbryd athrawes sy’n angerddol ac yn ffrind gofalgar.