Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Jo Wyatt: Ysgol Bryn Gwalia, Yr Wyddgrug

Mae Jo yn gweithio’n ddiflino i gefnogi pob plentyn a theulu yn Ysgol Bryn Gwalia.

Fe'i disgrifir fel rhywun ymroddedig, dibynadwy, tosturiol, caredig ac ysbrydoledig.

Yn egnïol a doniol, mae ei dysgwyr yn dweud bod ei “gwên yn goleuo ystafell”.

I lawer o rieni, mae Jo yn achubiaeth. Mae hi'n rhan enfawr o gymuned yr ysgol, bob amser ar gael i deuluoedd sydd angen cyngor a chefnogaeth.

Mae cydweithwyr, disgyblion a rhieni yn cytuno bod “angen Mrs Wyatt ar bob ysgol”.