Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Georgi Bennett: Ysgol Gyfun Pontarddulais, Pontarddulais

Gydag angerdd dros ail-ddychmygu a dad-drefedigaethu cwricwlwm y Dyniaethau, mae Georgi yn awyddus i greu ethos o amrywiaeth yn Ysgol Gyfun Pontarddulais.

Mae hi'n frwdfrydig dros greu adnoddau addysgu a dysgu arloesol a darparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth i staff. Mae ei brwdfrydedd yn arbennig o heintus pan mae hi’n sôn am syniadau ar sut i symud y cwricwlwm yn ei flaen!

Dywedodd y dysgwyr fod Georgi wedi eu hysbrydoli i garu hanes. Mae ei gwersi yn dod â hanesion cudd a lleisiau cudd yn fyw.

Mae’n caniatáu i’w dosbarth “herio canfyddiadau”, a “mynd yn groes i’r graen,” i ffurfio safbwyntiau a chwalu anwybodaeth.