Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Dr Gareth Evans: Ysgol y Creuddyn, Llandudno

Mae staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid Ysgol y Creuddyn yn cytuno bod Dr Gareth Evans yn “arloeswr” yn ei broffesiwn.

Mae Gareth yn athro mathemateg rhagorol, ac yn angerddol am ei bwnc. Ar ôl sylwi ar ddiffyg adnoddau mathemateg cyfrwng Cymraeg, crëodd Gareth Mathemateg.com. Mae wedi llenwi bwlch sylweddol gyda’r fenter hon, gan ddarparu cymorth mathemateg dwyieithog hygyrch ac effeithiol.

Mae’n fodel rôl go iawn i’r proffesiwn, ac mae hyn yn glir o’r edmygedd a’r cariad amlwg y mae’n ei greu ac yn ei ysbrydoli ym mhob un sy’n gweithio gydag ef ac sy’n cael ei addysgu ganddo.