Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Emma Smith: Coleg Gŵyr, Abertawe

Mae cydweithwyr yn disgrifio Emma fel darlithydd dawnus ac ysbrydoledig sy’n “hyrwyddo a grymuso dysgwyr i fod y gorau y gallant”.

Ar ôl rhagori yn ei rôl fel Arweinydd Cwricwlwm Saesneg, mae hi bellach yn gwneud gwahaniaeth yn ei rôl secondiad newydd fel Cydlynydd Seren/Oxbridge.

Mae Emma yn darparu cefnogaeth unigol ag iddo ffocws i'w myfyrwyr, ac ar gyfer eu dyfodol trwy drefnu teithiau a dosbarthiadau meistr gyda phrifysgolion.

Mae hi’n enghraifft o ragoriaeth mewn addysgu, yn cyflawni canlyniadau rhagorol yn gyson, yn gosod disgwyliadau uchel ac yn meithrin cydweithio o fewn y gymuned academaidd, gan gynnwys gydag ysgolion partner.