Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Dyfan Phillips: Pennaeth, Ysgol y Llys, Prestatyn

Mae Dyfan yn ymroddedig i lesiant pob unigolyn yn Ysgol y Llys.

Mae’n ymdrechu’n barhaus i sicrhau fod pob disgybl yn rhannu ei angerdd dros yr iaith Gymraeg, a hynny drwy ddefnyddio arferion arloesol a chymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol.

Mae e’n egnïol ac ymroddedig, gyda'r gallu anhygoel i siarad gyda phlant ac uniaethu â nhw. Mae ei ddylanwad yn ymestyn y tu hwnt i’r ysgol er mwyn cefnogi prifathrawon eraill, yr Urdd a’r Fenter Iaith.

O dan arweiniad Dyfan, mae Ysgol y Llys wedi datblygu’n ysgol feithringar a chynhwysol, ble mae cydweithwyr, rhieni a disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael gofal.