Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Carys Jones: Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr, Rhaeadr

Mantra Carys yw “mae angen i bawb gydweithio i wneud i bethau weithio i bob plentyn”.

Mae hi’n gweithio’n ddiflino gyda chydweithwyr, teuluoedd, ac asiantaethau allanol i ddarparu’r gefnogaeth orau i ddisgyblion bregus yn yr ysgol a chyflawni’r nod yma.

Mae’n deall anghenion unigol disgyblion ac yn eu cefnogi yn ‘Y Nyth’, y ganolfan feithrin y mae hi wedi’i sefydlu yn yr ysgol.

Mae Carys yn rhoi ei chalon a’i henaid i’w swydd ac yn helpu disgyblion i dyfu’n oedolion ifanc mwy annibynnol sy’n barod i gamu ymlaen i addysg uwchradd.