Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Amy Grimward: Ysgol Aberconwy, Conwy

Mae Amy yn dangos dealltwriaeth glir o sut mae dull gwrth-hiliol yn allweddol i gwricwlwm a arweinir gan y dibenion.

Roedd y cynllunio cydweithredol a deinamig ‘Cwricwlwm i Gymru’ a wnaeth hi ar gyfer testun Blwyddyn 8 ‘Ein Byd Amrywiol’, yn cynnwys edrych ar fewnfudo a hanes Du Prydeinig ar draws pob maes pwnc.

Mae’r disgyblion yn ymddiried ynddi pan maen nhw’n adrodd am helynt, oherwydd maen nhw’n gwybod y bydd hi’n gwrando ar y cyd-destun ac amgylchiadau unigol ac yn gweithredu yn unol â hynny.

Mae ganddi weledigaeth hirdymor ar gyfer gwrth-hiliaeth yn Ysgol Aberconwy ac mae hi wedi gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu dull dad-drefedigaethu o ddarparu’r cwricwlwm.