Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Amy Bergiers: Ysgol Nantgaredig, Caerfyrddin

Mae Amy yn athrawes sydd wastad yn mynd y tu hwnt i’r galw.

Mae hi’n gosod lles dysgwyr ar frig ei hagenda a chaiff hyn ei atgyfnerthu gan ei natur dosturiol a charedig.

Mae ei disgyblion yn ddysgwyr myfyriol ,uchelgeisiol sy’n canmol y profiadau gwych y maent wedi’u derbyn dros y 2 flynedd ddiwethaf, gan ddweud eu bod ‘wedi colli cyfri o’r holl dripiau iddynt fynychu’.

Mae’n gwreiddio ei hymarfer addysgu mewn profiadau bywyd go iawn, gan ymchwilio i fentrau lleol, cysylltu ag asiantaethau lleol, a sicrhau cyllid grant argyfer cyfleoedd ychwanegol.