Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Bishop Vaughan Catholic School, Abertawe

Mae pob tîm o staff yn Bishop Vaughan Catholic School yn hyrwyddo lefelau uchel o bresenoldeb, cefnogaeth ar gyfer lles disgyblion, ac ymdeimlad o berthyn a chymuned.

Gan gydnabod bod pob dysgwr yn wahanol, maen nhw wedi creu amgylchedd cynnes a chroesawgar.

Mae’r ysgol yn cefnogi disgyblion bregus, neu’r rhai sydd mewn perygl o ymddieithrio, gyda sesiynau ‘galw i mewn’ amser cinio, clybiau nos ac apwyntiadau gyda gweithiwr cymdeithasol. Mae teuluoedd yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgol, gan gynnwys cylchlythyrau rheolaidd, digwyddiad blynyddol ‘Festival of Family’ a gweithdai.

Mae'r strategaethau niferus hyn yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn a'r safonau uchaf o ymrwymiad i ddysgu.