Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Sean Jones: Ysgol Glan Gele, Abergele

Mae defnydd Sean o TGCh yn ysbrydoledig, gan baratoi ei ddisgyblion yn dda ar gyfer byd sy’n newid yn barhaus. Mae Sean wedi gweithio’n helaeth ar gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan uwchlwytho cynlluniau a syniadau sydd wedi’u defnyddio ar draws y rhanbarth ac mae ei frwdfrydedd dros y rôl hon yn heintus.

Mae’n ymroddedig i gyflwyno dysgu digidol ar draws yr ysgol, gan gynnwys dysgu proffesiynol i staff.

Mae Sean yn dda ei natur ac yn ddoniol, ac mae disgyblion, rhieni, a staff fel ei gilydd yn dwlu arno ac yn ei barchu'n aruthrol.