Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Meurig Jones: Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Maesteg

Mae sgiliau arwain Meurig yn eithriadol, ac mae’n defnyddio ei egni, ei frwdfrydedd a’i bendantrwydd i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ac i wneud gwahaniaeth i ddysgwyr y presennol a’r dyfodol.

Mae gan Meurig y ddawn arbennig o annog cydweithio ar bob lefel ac adeiladu timau cryf sy'n gallu ysgogi gwelliant ar draws pob maes. Mae’n buddsoddi amser gwerthfawr mewn dysgwyr, yn hyrwyddo cymuned o barch ac yn annog dysgwyr i fod yn uchelgeisiol, yn greadigol ac yn fentrus.

‘Nid da lle gellir gwell’ yw ei arwyddair personol ei hun ac mae hyn yn crisialu ei bendantrwydd i sicrhau bod pawb yn ymdrechu i gyflawni eu gorau ac anelu’n uwch bob amser.