Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mari Salisbury: Ysgol Croes Atti, Fflint

Mae Mari yn rhoi’r Gymraeg wrth galon ei dysgeidiaeth. Mae’n sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn eu hysbrydoli i gyfathrebu a mwynhau siarad yr iaith.

O ganlyniad i'w hymrwymiad, mae ethos ac awyrgylch yr ysgol yn dathlu Cymreictod, ac mae dysgwyr yn cyfathrebu â'i gilydd yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Mari’n cydweithio ag eraill i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac yn ysbrydoli gyda’i brwdfrydedd a’i hangerdd - nid yn unig yn yr ysgol ond dros rieni a’r gymuned ehangach hefyd.