Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Gill Sullivan: Ysgol Uwchradd Maesteg, Maesteg

Gill yw’r tawelwch yn y storm ym mywydau llawer o blant bregus ac mae’n cynnig hafan yn yr ysgol pan nad yw pethau’n mynd yn dda. Gwnaeth dros 2,000 o alwadau ffôn yn ystod y cyfnod clo cyntaf i sicrhau diogelwch a llesiant y plant mwyaf agored i niwed.

Mae Gill wedi gweithio yn yr ysgol ers dros 12 mlynedd, ac yn yr amser hwnnw mae wedi cefnogi miloedd o blant trwy gyfnodau heriol iawn.

Mae hi yn ei 60au ac yn parhau i fod yr aelod staff mwyaf brwd i ddysgu sgiliau newydd - dysgodd Gill sut i ddefnyddio Teams er mwyn gyrraedd plant bregus o bell.